22 Roedd aur pur yn gorchuddio pob twll a chornel o'r deml, gan gynnwys yr allor oedd yn y gell fewnol gysegredig.
23 Yn y cysegr mewnol dyma fe'n gwneud dau geriwb o goed olewydd. Roedden nhw'n bedwar metr a hanner o daldra.
24 Roedd pob adain yn ddau fetr a chwarter o hyd – pedwar metr a hanner o flaen un adain i flaen yr adain arall.
25 Roedd y ddau geriwb yr un maint a'i gilydd, ac roedd siâp y ddau yr un fath.
26 Roedd y ddau yn bedwar metr a hanner o daldra.
27 Dyma Solomon yn rhoi'r ddau geriwb ochr yn ochr yn y cysegr mewnol, gyda'i hadenydd ar led. Roedd adain y cyntaf yn cyffwrdd y wal un ochr i'r gell, ac adain y llall yn cyffwrdd y wal ar yr ochr arall. Ac roedd ail adain y ddau geriwb yn cyffwrdd ei gilydd yn y canol.
28 Roedd y ddau geriwb wedi eu gorchuddio gydag aur.