12 Bydd e yn adeiladu teml i mi,A bydda i'n gwneud iddo deyrnasu am byth.
13 Bydda i yn dad iddo, a bydd e'n fab i mi.Fydda i ddim yn stopio bod yn ffyddlon iddo fe,yn wahanol i'r un o dy flaen di.
14 Bydda i'n gwneud iddo deyrnasu am byth.Bydd ei orsedd yn gadarn fel y graig.’”
15 Dyma Nathan yn mynd a dweud y cwbl wrth Dafydd.
16 A dyma'r Brenin Dafydd yn mynd i mewn i eistedd o flaen yr ARGLWYDD. “O ARGLWYDD Dduw, pwy ydw i? Dw i a'm teulu yn neb. Ac eto ti wedi dod â fi mor bell!
17 Ac fel petai hynny ddim yn ddigon, O Dduw, ti wedi siarad am y dyfodol pell yn llinach dy was! Ti'n delio gyda mi fel petawn i'n rhywun pwysig, o ARGLWYDD Dduw.
18 Beth alla i ddweud? Ti wedi rhoi anrhydedd i dy was, ac yn gwybod sut un ydw i.