1 Pan oedd Dafydd wedi mynd yn hen ac yn dod i ddiwedd ei oes, dyma fe'n gwneud ei fab Solomon yn frenin ar Israel.
2 Yna dyma fe'n galw holl arweinwyr Israel, yr offeiriaid a'r Lefiaid at ei gilydd.
3 Cafodd y Lefiaid oedd yn dri deg oed neu'n hŷn eu cyfrif, ac roedd yna 38,000 ohonyn nhw.
4 A dyma Dafydd yn dweud, “Mae 24,000 i fod i arolygu gwaith Teml yr ARGLWYDD; 6,000 i fod yn swyddogion ac yn farnwyr;
5 4,000 i fod yn ofalwyr yn gwylio'r giatiau; a 4,000 i arwain y mawl i'r ARGLWYDD gyda'r offerynnau cerdd dw i wedi eu darparu ar gyfer yr addoliad.”
6 A dyma Dafydd yn eu rhannu nhw'n grwpiau wedi eu henwi ar ôl meibion Lefi: Gershon, Cohath a Merari.
7 Dau fab Gershon oedd Ladan a Shimei.