3 (Roedd yn un o ddisgynyddion Perets ac yn bennaeth ar swyddogion y fyddin i gyd yn y mis cyntaf.)
4 Mis 2 – Dodai, un o ddisgynyddion Achoach (gyda Micloth yn gapten) a'i adran o 24,000.
5 Mis 3 – Y trydydd arweinydd oedd Benaia, mab Jehoiada'r offeiriad, a'i adran o 24,000.
6 (Dyma'r Benaia oedd yn arwain y tri deg milwr dewr. Ei fab Amisafad oedd capten yr adran.)
7 Mis 4 – Asahel, brawd Joab, (Sebadeia ei fab wnaeth ei olynu) a'i adran o 24,000.
8 Mis 5 – Shamhwth o glan Israch a'i adran o 24,000.
9 Mis 6 – Ira fab Iccesh o Tecoa, a'i adran o 24,000.