43 Iachath, a Gershom, i Lefi.
44 Yna, yn eu helpu nhw, roedd eraill o lwyth Lefi oedd yn ddisgynyddion i Merari.Eu harweinydd nhw oedd Ethan fab Cishi, oedd a'i linach yn estyn yn ôl trwy Afdi, Malŵch,
45 Chashafeia, Amaseia, Chilceia,
46 Amtsi, Bani, Shemer,
47 Machli, Mwshi, a Merari, i Lefi.
48 Roedd gweddill y Lefiaid yn gyfrifol am bopeth arall roedd angen ei wneud yn y tabernacl, sef cysegr Duw.
49 Ond Aaron a'i feibion oedd yn gweini wrth yr allor lle roedd anifeiliaid yn cael eu llosgi a'r allor lle roedd arogldarth yn cael ei losgi. Nhw, felly, oedd yn gwneud yn gwaith yn y Lle Mwyaf Sanctaidd. Roedden nhw yn gwneud pethau'n iawn rhwng Duw ac Israel, fel roedd Moses gwas yr ARGLWYDD wedi gorchymyn.