55 Dyma nhw'n cael tref Hebron yn Jwda, a'r tir pori o'i chwmpas.
56 (Ond roedd caeau'r dref a'r pentrefi o'i chwmpas wedi eu rhoi i Caleb fab Jeffwnne.)
57 Cafodd disgynyddion Aaron y trefi lloches canlynol hefyd: Hebron, Libna, Iattir, Eshtemoa,
58 Cholon, Debir,
59 Ashan, a Beth-shemesh, a'r tir pori o gwmpas pob un.
60 Yna o fewn tiriogaeth llwyth Benjamin dyma nhw'n cael Geba, Alemeth, Anathoth, a'r tir pori o gwmpas y rheiny.Felly cafodd eu claniau nhw un deg tair o drefi i gyd.
61 A cafodd gweddill disgynyddion Cohath ddeg pentref oedd o fewn i diriogaeth hanner llwyth Manasse.