23 Mae'r ARGLWYDD yn dyst i bopeth dŷn ni wedi ei addo i'n gilydd.”
24 Felly dyma Dafydd yn mynd i guddio yn y cae.Ar Ŵyl y lleuad newydd dyma'r brenin Saul yn eistedd i fwyta.
25 Eisteddodd yn ei le arferol, wrth y wal, gyda Jonathan gyferbyn ag e, ac Abner wrth ei ymyl. Ond roedd lle Dafydd yn wag.
26 Ddwedodd Saul ddim byd y diwrnod hwnnw. Roedd e'n meddwl falle fod rhywbeth wedi digwydd fel bod Dafydd ddim yn lân yn seremonïol.
27 Ond y diwrnod wedyn (sef ail ddiwrnod Gŵyl y lleuad newydd) roedd sedd Dafydd yn dal yn wag. A dyma Saul yn gofyn i Jonathan, “Pam nad ydy mab Jesse wedi dod i fwyta ddoe na heddiw?”
28 Atebodd Jonathan, “Roedd Dafydd yn crefu arna i adael iddo fynd i Fethlehem.
29 ‘Mae'n ddiwrnod aberthu i'n teulu ni,’ meddai, ‘ac mae fy mrawd wedi dweud fod rhaid i mi fod yno. Plîs gad i mi fynd i weld fy mrodyr.’ Dyna pam dydy e ddim yma i fwyta gyda'r brenin.”