20 Pan glywodd Saul beth ddwedodd Samuel dyma fe'n syrthio ar ei hyd ar lawr. Roedd wedi dychryn trwyddo, a doedd ganddo ddim nerth o gwbl am ei fod heb fwyta drwy'r dydd na'r nos.
21 Roedd y wraig yn gweld gymaint roedd Saul wedi dychryn, ac meddai wrtho, “Dw i, dy forwyn, wedi gwneud beth roeddet ti eisiau. Ro'n i'n mentro fy mywyd yn gwrando arnat ti.
22 Nawr, gwrando di arna i. Gad i mi roi ychydig o fwyd i ti. Pan fyddi wedi cael dy nerth yn ôl cei fynd ar dy daith.”
23 Ond gwrthod wnaeth Saul, a dweud ei fod e ddim eisiau bwyta. Ar ôl i'w weision a'r wraig bwyso arno dyma fe'n gwrando yn y diwedd. Cododd oddi ar lawr ac eistedd ar y gwely.
24 Roedd gan y wraig lo gwryw wedi ei besgi, felly dyma hi'n ei ladd yn syth. Wedyn dyma hi'n cymryd blawd a pobi bara heb furum ynddo.
25 Gosododd y bwyd o flaen Saul a'i weision. Yna ar ôl iddyn nhw fwyta, dyma nhw'n gadael y noson honno.