3 Dwedodd Samuel wrth bobl Israel, “Os ydych chi wir am droi yn ôl at Dduw â'ch holl galon, taflwch allan eich duwiau eraill, a'r delwau sydd gynnoch chi o'r dduwies Ashtart. Rhowch eich hunain yn llwyr i'r ARGLWYDD, a'i addoli e a neb arall. Wedyn bydd e'n eich achub chi oddi wrth y Philistiaid.”
4 Felly dyma bobl Israel yn cael gwared â'r delwau o Baal a'r dduwies Ashtart, a dechrau addoli'r ARGLWYDD yn unig.
5 Dwedodd Samuel wrthyn nhw am gasglu pawb at ei gilydd yn Mitspa. “Gwna i weddïo ar yr ARGLWYDD trosoch chi,” meddai.
6 Wedi iddyn nhw ddod at ei gilydd yn Mitspa, dyma nhw'n codi dŵr o'r ffynnon a'i dywallt ar lawr fel offrwm i Dduw. Wnaethon nhw ddim bwyta trwy'r dydd. “Dŷn ni wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD,” medden nhw. (A Samuel oedd yn arwain pobl Israel yn Mitspa.)
7 Clywodd y Philistiaid fod pobl Israel wedi dod at ei gilydd yn Mitspa. Felly dyma lywodraethwyr y Philistiaid yn penderfynu ymosod arnyn nhw. Roedd pobl Israel wedi dychryn pan glywon nhw hyn.
8 Dyma nhw'n dweud wrth Samuel, “Dal ati i weddïo'n daer ar yr ARGLWYDD ein Duw, iddo'n hachub ni rhag y Philistiaid.”
9 Felly dyma Samuel yn cymryd oen sugno a'i losgi'n gyfan yn offrwm i Dduw. Roedd Samuel yn gweddïo dros Israel, a dyma Duw yn ateb.