17 Roedden nhw hyd yn oed yn llosgi eu plant yn aberth, yn dewino ac yn darogan. Roedden nhw'n benderfynol o wneud pethau oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a'i bryfocio.
18 Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda phobl Israel, a dyma fe'n eu gyrru nhw o'i olwg. Dim ond llwyth Jwda oedd ar ôl.
19 Ond doedd Jwda chwaith ddim yn cadw gorchmynion yr ARGLWYDD eu Duw. Roedden nhw'n dilyn arferion Israel.
20 Roedd yr ARGLWYDD wedi gwrthod pobl Israel i gyd, a'u cosbi nhw drwy adael i bobl eraill eu rheibio a'u dinistrio nhw. Gyrrodd nhw o'i olwg yn llwyr.
21 Pan wnaeth Duw rwygo Israel oddi wrth linach Dafydd dyma nhw'n gwneud Jeroboam fab Nebat yn frenin. A dyma fe'n arwain pobl Israel i ffwrdd oddi wrth yr ARGLWYDD a gwneud iddyn nhw bechu'n ofnadwy.
22 Dyma'r bobl yn addoli eilunod Jeroboam, a wnaethon nhw ddim troi cefn arnyn nhw o gwbl.
23 Felly dyma'r ARGLWYDD yn gyrru Israel allan o'i olwg fel roedd wedi rhybuddio y byddai'n gwneud trwy ei weision y proffwydi. Cafodd pobl Israel eu symud o'u gwlad eu hunain i Asyria. Maen nhw dal yno heddiw.