34 Maen nhw'n dal i ddilyn yr un hen arferion hyd heddiw. Dŷn nhw ddim wir yn parchu'r ARGLWYDD, nac yn ufudd i'r rheolau, gorchmynion, deddfau a gofynion gafodd eu rhoi i ddisgynyddion Jacob, y dyn wnaeth Duw roi'r enw Israel iddo.
35 Roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud ymrwymiad gyda nhw, a rhoi'r gorchymyn yma iddyn nhw: “Peidiwch addoli duwiau eraill. Peidiwch plygu o'u blaen, eu gwasanaethu nac aberthu iddyn nhw.
36 Dim ond fi, yr ARGLWYDD dych chi i'w addoli. Fi ddaeth â chi allan o wlad yr Aifft gyda nerth a grym mawr. Fi ydy'r un dych chi i'w addoli ac aberthu anifeiliaid iddo.
37 A dych chi i gadw y rheolau, gorchmynion, deddfau a gofynion wnes i eu hysgrifennu i chi. Peidiwch addoli duwiau eraill.
38 Peidiwch anghofio'r ymrwymiad wnes i gyda chi, a peidiwch addoli duwiau eraill.
39 Fi, yr ARGLWYDD eich Duw dych chi i'w addoli, a bydda i'n eich achub chi oddi wrth eich gelynion i gyd.”
40 Ond doedden nhw ddim am wrando. Roedden nhw'n dal i ddilyn yr un hen arferion.