24 Roedd Joseia hefyd wedi cael gwared â phawb oedd yn ymhél ag ysbrydion ac yn siarad â'r meirw, pob eilun-ddelw teuluol a'r eilunod ffiaidd eraill oedd i'w gweld yn Jwda a Jerwsalem. Gwnaeth ei orau glas i gadw gofynion y gyfraith oedd ar y sgrôl roedd Chilceia'r offeiriad wedi dod o hyd iddi yn y deml.