4 Roedd Mesha, brenin Moab yn cadw defaid. Roedd rhaid iddo dalu treth bob blwyddyn i frenin Israel – can mil o ŵyn a gwlân can mil o hyrddod.
5 Ond pan fu farw'r brenin Ahab, dyma frenin Moab yn gwrthryfela yn erbyn brenin newydd Israel.
6 Felly dyma'r Brenin Joram yn mynd allan o Samaria a galw byddin Israel i gyd at ei gilydd.
7 A dyma fe'n anfon neges at Jehosaffat, brenin Jwda, yn dweud, “Mae brenin Moab wedi gwrthryfela yn fy erbyn i. Ddoi di gyda mi i ryfel yn erbyn Moab?”A dyma Jehosaffat yn ateb, “Dw i gyda ti, a bydd fy myddin i gyda dy fyddin di.”
8 Yna dyma fe'n gofyn, “Pa ffordd awn ni?” A dyma Joram yn ateb, “Ar hyd y ffordd drwy anialwch Edom.”
9 Felly dyma frenin Israel, brenin Jwda a brenin Edom yn mynd y ffordd hir rownd. Cymerodd saith diwrnod, a doedd ganddyn nhw ddim dŵr i'r milwyr na'r anifeiliaid oedd gyda nhw.
10 “O, na!” meddai brenin Israel, “Ydy'r ARGLWYDD wedi'n galw ni dri brenin allan er mwyn i frenin Moab ein curo ni?”