1 Dyma wraig un oedd yn aelod o'r urdd o broffwydi yn dod at Eliseus a pledio am ei help. “Roedd fy ngŵr i yn un o dy ddynion di,” meddai, “ac fel ti'n gwybod, roedd e'n ddyn duwiol. Ond mae e wedi marw, a nawr mae rhywun roedd e mewn dyled iddo wedi dod i gasglu'r ddyled, ac mae am gymryd fy nau fab yn gaethweision.”
2 Dyma Eliseus yn ateb, “Be alla i wneud? Dywed wrtho i, be sydd gen ti yn y tŷ?”“Does gen i ddim byd ond jar bach o olew, syr,” meddai.
3 Yna dyma Eliseus yn dweud wrthi, “Dos i fenthyg llestri gan dy gymdogion. Byddi angen casglu cymaint ag y medri o lestri gweigion.
4 Yna dos i'r tŷ gyda dy feibion, a cau'r drws tu ôl i ti. Tywallt olew i bob un llestr a rhoi'r rhai llawn ar un ochr.”
5 Felly dyma hi'n mynd i wneud hynny, ac yn cau'r drws arni hi a'i dau fab. Wrth i'w meibion ddod â mwy a mwy o lestri iddi, roedd hi'n eu llenwi gyda'r olew.