19 “Rhaid i bob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni gael ei gadw i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD – o'r gwartheg, defaid a geifr. Peidiwch gwneud i'r ychen oedd gyntaf i gael ei eni weithio, na cneifio'r ddafad neu'r afr gyntaf i gael ei geni.
20 Bob blwyddyn, dych chi a'ch teulu i'w bwyta o flaen yr ARGLWYDD yn y lle mae e wedi ei ddewis.
21 Ond peidiwch aberthu anifail sydd â rhywbeth o'i le arno i'r ARGLWYDD – anifail sy'n gloff, yn ddall, neu gydag unrhyw beth arall o'i le arno.
22 Cewch fwyta'r anifeiliaid hynny yn eich pentrefi, fel petai'n gig gasél neu garw. A gall pawb eu bwyta – y bobl sy'n lân yn seremonïol a'r rhai sydd ddim.
23 Ond rhaid i chi beidio bwyta'r gwaed. Mae'r gwaed i gael ei dywallt ar lawr fel dŵr.