8 Paid cerfio eilun i'w addoli –dim byd sy'n edrych fel unrhywaderyn, anifail na physgodyn.
9 Paid plygu i lawr a'u haddoli nhw.Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw di, yn Dduw eiddigeddus.Dw i'n cosbi pechodau'r rhieni sy'n fy nghasáu i,ac mae'r canlyniadau yn gadael eu hôl ar y plantam dair i bedair cenhedlaeth.
10 Ond dw i'n dangos cariad di-droi-nôl,am fil o genedlaethau,at y rhai sy'n fy ngharu iac yn gwneud beth dw i'n ddweud.
11 Paid camddefnyddio enw'r ARGLWYDD dy Dduw.Fydda i ddim yn gadael i rywun sy'n camddefnyddio fy enwddianc rhag cael ei gosbi.
12 Cadw'r dydd Saboth yn sbesial,yn ddiwrnod cysegredig, gwahanol i'r lleill,fel mae'r ARGLWYDD dy Dduw wedi gorchymyn i ti.
13 Gelli weithio ar y chwe diwrnod arall,a gwneud popeth sydd angen ei wneud.
14 Mae'r seithfed diwrnod i'w gadw yn Saboth i'r ARGLWYDD.Does neb i fod i weithio ar y diwrnod yma –ti na dy feibion a dy ferched,dy weision na dy forynion chwaith;dim hyd yn oed dy ychen a dy asyn,nac unrhyw anifail arall;nac unrhyw fewnfudwr sy'n aros gyda ti.Mae'r gwas a'r forwyn i gael gorffwys fel ti dy hun.