11 Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw'r gorchmynion, y canllawiau a'r rheolau dw i'n eu rhoi i chi heddiw.
12 “Os gwnewch chi wrando ar y canllawiau yma, bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn cadw'r ymrwymiad hael wnaeth gyda chi, fel gwnaeth e addo i'ch hynafiaid.
13 Bydd e'n eich caru a'ch bendithio chi, ac yn rhoi lot o blant i chi. Bydd eich cnydau'n llwyddo, yr ŷd, y sudd grawnwin a'r olewydd; bydd eich gwartheg yn cael lloi, a'ch preiddiau yn cael lot o rai bach.
14 Byddwch yn cael eich bendithio fwy nag unrhyw wlad arall – bydd eich teuluoedd yn tyfu, a bydd nifer eich anifeiliaid yn cynyddu.
15 Bydd yr ARGLWYDD yn eich amddiffyn rhag salwch, a fyddwch chi ddim yn dioddef o'r heintiau wnaeth daro'r Aifft. Eich gelynion fydd yn dioddef o'r pethau yna.
16 “Rhaid i chi ddinistrio'r bobl fydd yr ARGLWYDD yn eich galluogi chi i'w concro nhw. Peidiwch teimlo trueni drostyn nhw, a peidiwch addoli eu duwiau, neu bydd hi ar ben arnoch chi.
17 Falle dy fod yn gofyn, ‘Sut ydyn ni'n mynd i lwyddo i gymryd tir y bobloedd yma? – mae mwy ohonyn nhw nag sydd ohonon ni!’