14 Maen nhw wrth eu boddau yn gwneud drwgac yn mwynhau twyllo –
15 Pobl anonest ydyn nhw,ac maen nhw'n dilyn ffyrdd troellog.
16 Bydd yn dy achub di rhag y wraig anfoesol,yr un llac ei moesau sy'n fflyrtian drwy'r adeg,
17 yr un sydd wedi gadael ei gŵr,a diystyru'r addewidion wnaeth hi o flaen Duw.
18 Mae ei thŷ hi yn llwybr llithrig i farwolaeth;mae ei dilyn hi yn arwain i fyd y meirw.
19 Does neb sy'n mynd ati hi'n gallu troi yn ôl,a chael eu hunain ar lwybr bywyd unwaith eto.
20 Dilyn di ffordd y rhai sy'n byw yn dda,cadw di at lwybrau'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn.