18 Bydd yr un sy'n byw'n onest yn saff,ond bydd person dauwynebog yn siŵr o syrthio.
19 Bydd y sawl sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd,ond yr un sy'n gwastraffu amser yn cael dim ond tlodi.
20 Bydd y person cydwybodol yn cael ei fendithio'n fawr,ond yr un sydd ond eisiau gwneud arian sydyn yn cael ei gosbi.
21 Dydy dangos ffafriaeth ddim yn beth da;ond mae rhai pobl yn fodlon gwneud drwg am damaid o fara!
22 Mae person cybyddlyd eisiau gwneud arian sydyn,heb sylweddoli mai colled sy'n dod iddo.
23 Mae'r un sy'n barod i roi gair o geryddyn cael mwy o barch yn y diwedd na'r un sy'n seboni.
24 Mae'r un sy'n dwyn oddi ar ei dad a'i fam,ac yna'n dweud, “wnes i ddim byd o'i le,”yn ffrind i lofrudd.