5 Ti wedi defnyddio dy graffter masnachol i gael mwy o gyfoeth, ond mae dy gyfoeth wedi chwyddo dy ben.
6 Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Am dy fod yn meddwl dy fod ti'n dduw
7 dw i'n mynd i ddod â byddin o wlad estron yn dy erbyn di – y wlad fwya creulon sydd. Byddan nhw'n tynnu eu cleddyfau ac yn taro dy glyfrwch rhyfeddol a difetha dy ysblander.
8 Byddi'n cael dy anfon i lawr i Bwll distryw ac yn marw'n greulon yng nghanol y môr.
9 Wyt ti'n mynd i ddal ati i honni dy fod yn dduw pan fyddi wyneb yn wyneb â'r rhai fydd yn dy ladd? Dyn meidrol fyddi di yn eu golwg nhw, nid duw!
10 Byddi'n cael dy ladd yn y ffordd fwya creulon gan fyddin o wlad estron. Fi ydy'r ARGLWYDD, y Meistr, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod.’”
11 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: