3 Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud:Bydda i'n taflu fy rhwyd drosot ti(bydd tyrfa enfawr o bobl yno),ac yn dy lusgo allan o'r dŵr gyda'm llusgrwyd.
4 Wedyn bydda i'n dy daflu di ar dir sych,a bydd yr adar yn dod ac yn byw arnat ti,a'r anifeiliaid gwylltion yn llenwi eu hunain arnat.
5 Bydd dy gig ar y mynyddoedda'r gweddillion yn y dyffrynnoedd.
6 Bydda i'n socian y tir gyda dy waed di,yr holl ffordd i ben y mynyddoedd,a bydd dy waed yn llenwi'r ceunentydd i gyd.
7 Pan fydda i'n dy ddiffodd bydda i'n rhoi gorchudd ar yr awyr,ac yn diffodd y sêr i gyd.Bydd cwmwl yn cuddio'r haul,ac yn rhwystro'r lleuad rhag llewyrchu.
8 Bydd pob golau yn yr awyr yn diffodd,a bydd tywyllwch drwy'r wlad i gyd,”meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
9 “Bydd pobloedd lawer wedi cynhyrfu pan fydd y cenhedloedd yn clywed am dy ddinistr. Hyd yn oed gwledydd dwyt ti erioed wedi clywed amdanyn nhw.