25 Roedd y ffenestri yno a'r ffenestri yn yr ystafell gyntedd yr un fath â'r lleill, ac roedd hyd a lled y fynedfa yr un fath hefyd, sef dau ddeg chwech metr wrth un deg tri metr.
26 Roedd saith gris yn mynd i fyny at y giât, ac roedd ystafell gyntedd ar yr ochr fewnol. Ac roedd coed palmwydd ar y colofnau, un bob ochr.
27 Roedd giât i'r iard fewnol yn wynebu'r de hefyd. Mesurodd y pellter o un giât i'r llall, ac roedd yn bum deg dau metr a hanner.
28 Yna aeth â fi i'r iard fewnol drwy'r giât ddeheuol. Mesurodd y fynedfa, ac roedd yr un faint â'r lleill.
29 Roedd y cilfachau, y colofnau a'r ystafell gyntedd yr un faint â'r lleill; roedd ei ffenestri'r un fath; ac roedd yn mesur dau ddeg chwech metr wrth un deg tri metr.
30 Roedd cynteddau o'i chwmpas, yn un deg tri metr o hyd a dau fetr a hanner o led.
31 Roedd yr ystafell gyntedd yn wynebu'r iard allanol. Roedd coed palmwydd ar ei cholofnau. Roedd wyth gris i fyny at y giât.