4 “‘Dyma fydd pennaeth y wlad yn ei roi yn offrwm i'w losgi bob Saboth: chwe oen ac un hwrdd heb ddim byd o'i le arnyn nhw.
5 Bydd deg cilogram o rawn yn cael ei offrymu gyda'r hwrdd, a faint bynnag mae e eisiau ei roi gyda phob oen. Mae hefyd i roi galwyn o olew olewydd gyda phob mesur o rawn.
6 Ar Ŵyl y lleuad newydd mae i offrymu tarw ifanc, chwe oen ac un hwrdd – anifeiliaid sydd â dim byd o'i le arnyn nhw.
7 Offrwm o rawn hefyd – sef deg cilogram gyda'r tarw, deg cilogram gyda'r hwrdd, faint bynnag mae e eisiau ei roi gyda phob oen, a galwyn o olew olewydd gyda phob mesur o rawn.
8 Mae pennaeth y wlad i fynd at y giât drwy'r cyntedd allanol, a mynd allan yr un ffordd.
9 “‘Ond pan mae'r bobl gyffredin yn mynd i addoli'r ARGLWYDD ar y gwyliau crefyddol, mae pwy bynnag sy'n mynd i mewn trwy giât y gogledd i fynd allan drwy giât y de, a'r ffordd arall. Does neb i fynd allan yr un ffordd ag yr aeth i mewn; rhaid iddyn nhw ddefnyddio'r giât gyferbyn.
10 Ar yr adegau yma bydd pennaeth y wlad yn mynd i mewn ac allan gyda gweddill y bobl.