3 Yna dyma'r proffwyd Eseia yn mynd at y brenin Heseceia, a gofyn iddo: “Beth ddwedodd y dynion yna wrthot ti? O ble daethon nhw?” Atebodd Heseceia. “Daethon nhw ata i o wlad bell iawn – o Babilon.”
4 Gofynnodd Eseia wedyn, “Beth welon nhw yn dy balas di?” a dyma Heseceia'n ateb, “Popeth sydd gen i. Does dim byd yn fy stordai i gyd na welon nhw.”
5 A dyma Eseia'n dweud wrth Heseceia, “Gwrando ar neges yr ARGLWYDD holl-bwerus:
6 ‘Edrych! Mae'r amser yn dod pan fydd popeth sy'n dy balas di, popeth gasglodd dy ragflaenwyr di hyd heddiw, yn cael ei gario i ffwrdd i Babilon. Fydd dim byd ar ôl!’ meddai'r ARGLWYDD.
7 Bydd rhai o dy deulu di, ie, dy ddisgynyddion di dy hun, yn cael eu cymryd i ffwrdd ac yn gwasanaethu fel swyddogion ym mhalas brenin Babilon.”
8 Dyma Heseceia yn dweud wrth Eseia, “Mae'r neges rwyt ti wedi ei rhannu gan yr ARGLWYDD yn dda.” Roedd e'n meddwl, “Be wedyn? O leia bydd heddwch a diogelwch tra dw i'n fyw.”