2 Ond aeth e ddim pellach na giât y palas – doedd neb yn cael mynd trwy'r giât honno yn gwisgo sachliain.
3 Drwy'r taleithiau i gyd, ble bynnag roedd datganiad a chyfraith y brenin yn cael ei chyhoeddi, roedd yr Iddewon yn galaru, yn ymprydio ac yn wylo. Roedd y rhan fwya ohonyn nhw'n gorwedd i gysgu ar sachliain a lludw.
4 Pan ddwedodd morynion ac ystafellyddion Esther wrthi am Mordecai, roedd hi wedi ypsetio'n ofnadwy. Dyma hi'n anfon dillad i Mordecai eu gwisgo yn lle'r sachliain, ond roedd yn gwrthod eu cymryd.
5 Felly dyma Esther yn galw am Hathach, un o ystafellyddion y brenin oedd wedi ei benodi i ofalu amdani, a dweud wrtho am fynd i ddarganfod beth oedd yn bod ar Mordecai.
6 Dyma Hathach yn mynd i weld Mordecai yn y sgwâr tu allan i giât y palas.
7 A dyma Mordecai yn dweud wrtho am bopeth oedd wedi digwydd, a faint o arian oedd Haman wedi addo ei dalu i'r trysordy brenhinol petai'r Iddewon yn cael eu lladd.
8 A dyma fe'n rhoi copi ysgrifenedig i Hathach o'r gorchymyn oedd wedi ei ddosbarthu yn Shwshan yn dweud fod yr Iddewon i gael eu lladd. Gofynnodd i Hathach ei ddangos i Esther ac esbonio iddi beth oedd yn digwydd, a dweud wrthi fod rhaid iddi fynd at y brenin i bledio ac apelio arno i arbed ei phobl.