5 Felly dyma Esther yn galw am Hathach, un o ystafellyddion y brenin oedd wedi ei benodi i ofalu amdani, a dweud wrtho am fynd i ddarganfod beth oedd yn bod ar Mordecai.
6 Dyma Hathach yn mynd i weld Mordecai yn y sgwâr tu allan i giât y palas.
7 A dyma Mordecai yn dweud wrtho am bopeth oedd wedi digwydd, a faint o arian oedd Haman wedi addo ei dalu i'r trysordy brenhinol petai'r Iddewon yn cael eu lladd.
8 A dyma fe'n rhoi copi ysgrifenedig i Hathach o'r gorchymyn oedd wedi ei ddosbarthu yn Shwshan yn dweud fod yr Iddewon i gael eu lladd. Gofynnodd i Hathach ei ddangos i Esther ac esbonio iddi beth oedd yn digwydd, a dweud wrthi fod rhaid iddi fynd at y brenin i bledio ac apelio arno i arbed ei phobl.
9 Felly dyma Hathach yn mynd yn ôl a rhannu gydag Esther beth oedd Mordecai eisiau iddi ei wneud.
10 Yna dyma Esther yn anfon Hathach yn ôl at Mordecai i ddweud wrtho,
11 “Mae swyddogion a gweision y brenin drwy'r taleithiau i gyd yn gwybod beth mae'r gyfraith yn ddweud fydd yn digwydd i unrhyw un sy'n mynd i weld y brenin heb gael gwahoddiad – mae'r person hwnnw i farw, oni bai fod y brenin yn arbed ei fywyd drwy estyn y deyrnwialen aur ato fe neu hi. Dw i ddim wedi cael gwahoddiad i fynd i weld y brenin ers mis cyfan!”