8 A dyma fe'n rhoi copi ysgrifenedig i Hathach o'r gorchymyn oedd wedi ei ddosbarthu yn Shwshan yn dweud fod yr Iddewon i gael eu lladd. Gofynnodd i Hathach ei ddangos i Esther ac esbonio iddi beth oedd yn digwydd, a dweud wrthi fod rhaid iddi fynd at y brenin i bledio ac apelio arno i arbed ei phobl.
9 Felly dyma Hathach yn mynd yn ôl a rhannu gydag Esther beth oedd Mordecai eisiau iddi ei wneud.
10 Yna dyma Esther yn anfon Hathach yn ôl at Mordecai i ddweud wrtho,
11 “Mae swyddogion a gweision y brenin drwy'r taleithiau i gyd yn gwybod beth mae'r gyfraith yn ddweud fydd yn digwydd i unrhyw un sy'n mynd i weld y brenin heb gael gwahoddiad – mae'r person hwnnw i farw, oni bai fod y brenin yn arbed ei fywyd drwy estyn y deyrnwialen aur ato fe neu hi. Dw i ddim wedi cael gwahoddiad i fynd i weld y brenin ers mis cyfan!”
12 Pan ddwedodd Hathach wrth Mordecai beth oedd Esther yn ei ddweud,
13 dyma Mordecai yn anfon yr ateb yma yn ôl: “Paid meddwl am funud y byddi di'n osgoi cael dy ladd fel pob Iddew arall am dy fod ti'n byw yn y palas.
14 Os byddi di'n gwrthod dweud dim yr adeg yma, bydd rhywbeth yn digwydd o gyfeiriad arall i achub ac amddiffyn yr Iddewon, ond byddi di a teulu dy dad yn marw. Falle mai dyma'n union pam rwyt ti wedi dod yn rhan o'r teulu brenhinol ar yr adeg yma!”