1 Yna ar yr unfed ar hugain o'r seithfed mis yn yr ail flwyddyn i'r Brenin Dareius deyrnasu, dyma'r proffwyd Haggai yn cael y neges yma gan yr ARGLWYDD:
2 “Dos i siarad â Serwbabel fab Shealtiel, llywodraethwr Jwda, a'r archoffeiriad Jehoshwa fab Iehotsadac. Dywed wrthyn nhw, a phawb arall hefyd:
3 ‘Pwy ohonoch chi yma welodd y deml fel roedd hi ers talwm, yn ei holl ysblander? A sut mae'n edrych i chi nawr? Dim byd o'i chymharu mae'n siŵr!
4 Ond dal ati, Serwbabel. Dal ati, Jehoshwa fab Iehotsadac. A daliwch chithau ati, bawb’—meddai'r ARGLWYDD. ‘Daliwch ati i weithio, oherwydd dw i gyda chi’—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.