1 Dyma neges arall roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia:
2 “Atgoffa bobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem o amodau yr ymrwymiad wnes i gydag Israel.
3 Dywed wrthyn nhw fod yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn dweud: ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n diystyru amodau'r ymrwymiad.
4 Pan ddes i â'ch hynafiaid chi allan o'r Aifft, o'r ffwrnais haearn, dwedais wrthyn nhw, “Rhaid i chi wrando arna i a chadw'r amodau dw i'n eu gosod. Os gwnewch chi hynny, byddwch chi'n bobl i mi, a bydda i'n Dduw i chi.”
5 Wedyn roeddwn i'n gallu rhoi beth wnes i addo iddyn nhw – tir ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo. A dyna'r wlad ble dych chi'n byw heddiw.’” A dyma fi'n ateb, “Amen! Mae'n wir ARGLWYDD!”
6 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Cyhoedda'r neges yma yn nhrefi Jwda ac ar strydoedd Jerwsalem: ‘Gwrandwch ar amodau yr ymrwymiad rhyngon ni, a'u cadw nhw.
7 Roeddwn i wedi rhybuddio'ch hynafiaid chi pan ddes i â nhw allan o'r Aifft. A dw i wedi dal ati i wneud hynny hyd heddiw, i'ch cael chi i wrando arna i.