13 Felly dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Gofyn i bobl y gwledydd eraillos ydyn nhw wedi clywed am y fath beth!Mae Jerwsalem, dinas lân Israel,wedi gwneud peth cwbl ffiaidd!
14 Ydy'r eira'n diflannu oddi ar lethrau creigiog Libanus?Ydy nentydd oer y mynyddoedd pell yn stopio llifo? Nac ydyn.
15 Ond mae fy mhobl wedi fy anghofio i.Maen nhw'n llosgi arogldarth i eilun-dduwiau diwerth!Gwnaeth hynny iddyn nhw faglu a gadael yr hen ffyrdda mynd ar goll ar lwybrau diarffordd.
16 O ganlyniad, bydd pethau ofnadwy yn digwydd i'r wlad.Fydd pobl ddim yn stopio chwibanu mewn rhyfeddod.Bydd pawb sy'n pasio heibio yn dychrynac yn ysgwyd eu pennau'n syn.
17 Dw i'n mynd i wneud i'w gelynion eu gyrru nhw ar chwâl,fel tywod yn cael ei yrru gan wynt y dwyrain.Bydda i'n troi cefn arnyn nhwyn lle troi i'w helpu nhw pan ddaw'r drychineb.”
18 A dyma'r bobl yn dweud, “Dewch, gadewch i ni ddelio hefo Jeremeia. Bydd yn dal gynnon ni offeiriaid i roi arweiniad i ni, dynion doeth i roi cyngor i ni, a phroffwydi i roi neges Duw i ni. Dewch, gadewch i ni ddod â cyhuddiadau yn ei erbyn. Fydd dim rhaid i ni wrando arno fe o gwbl wedyn.”
19 “ARGLWYDD, wnei di ymateb plîs?Gwranda beth mae fy ngelynion yn ei ddweud.