22 Bydd gan bobl Jwda sy'n gaeth yn Babilon y dywediad yma wrth felltithio rhywun: ‘Boed i'r ARGLWYDD dy wneud di fel Sedeceia ac Ahab, gafodd eu llosgi'n fyw gan frenin Babilon!’
23 Maen nhw wedi gwneud pethau gwarthus yn Israel. Cysgu gyda gwragedd dynion eraill, a dweud celwydd tra'n honni eu bod nhw'n siarad drosta i. Wnes i ddim dweud dim wrthyn nhw. Ond dw i'n gwybod yn iawn ac wedi gweld beth maen nhw wedi ei wneud,” meddai'r ARGLWYDD.
24 Yna dywed wrth Shemaia o Nechelam:
25 Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel yn ei ddweud: “Anfonaist lythyrau ar dy liwt dy hun at y bobl sydd yn Jerwsalem, ac at Seffaneia fab Maaseia a'r offeiriaid eraill i gyd, yn dweud fel hyn,
26 ‘Mae'r ARGLWYDD wedi dy wneud di'n offeiriad yn lle Jehoiada, i fod yn gyfrifrifol am beth sy'n digwydd yn y deml. Ac mae rhyw wallgofddyn yn dod yno a chymryd arno ei fod yn broffwyd. Dylet ei ddal a rhoi coler haearn a chyffion arno.
27 Dylet ti fod wedi ceryddu Jeremeia o Anathoth am gymryd arno ei fod yn broffwyd.
28 Mae e wedi anfon neges aton ni yn Babilon, yn dweud, “Dych chi'n mynd i fod yna am amser hir. Adeiladwch dai a setlo i lawr. Plannwch erddi a bwyta'r hyn sy'n tyfu ynddyn nhw.”’”