9 Maen nhw'n hawlio eu bod nhw'n siarad drosta i, ond yn dweud celwydd! Wnes i ddim eu hanfon nhw,” meddai'r ARGLWYDD.
10 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Pan fydd Babilon wedi rheoli am saith deg mlynedd bydda i'n cymryd sylw ohonoch chi eto. Dyna pryd y bydda i'n gwneud y pethau da dw i wedi eu haddo, a dod â chi yn ôl yma i'ch gwlad eich hunain.
11 Fi sy'n gwybod beth dw i wedi ei gynllunio ar eich cyfer chi,” meddai'r ARGLWYDD. “Dw i'n bwriadu eich bendithio chi, dim gwneud niwed i chi. Dw i am roi dyfodol llawn gobaith i chi.
12 Byddwch yn galw arna i ac yn gweddïo, a bydda i'n gwrando.
13 Os byddwch chi'n chwilio amdana i o ddifri, â'ch holl galon, byddwch chi'n fy ffeindio i.
14 Bydda i'n gadael i chi ddod o hyd i mi,” meddai'r ARGLWYDD. “Bydda i'n rhoi'r cwbl wnaethoch chi ei golli yn ôl i chi. Bydda i'n eich casglu chi yn ôl o'r holl wledydd wnes i eich gyrru chi i ffwrdd iddyn nhw. Bydda i'n dod â chi adre i'ch gwlad eich hunain.”
15 “Ond mae'r ARGLWYDD wedi rhoi proffwydi i ni yma yn Babilon,” meddech chi.