8 Roedd hanner llwyth Manasse, a llwythau Reuben a Gad wedi derbyn tir i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen. Roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wedi rhoi y tir hwnnw iddyn nhw.
9 Roedd eu tir yn ymestyn o Aroer, yn Nyffryn Arnon (gan gynnwys y dref ei hun yn y dyffryn), a gwastadedd Medeba yr holl ffordd i Dibon.
10 Hefyd y trefi oedd yn arfer perthyn i Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn teyrnasu yn Cheshbon, at y ffin gydag Ammon.
11 Roedd yn cynnwys Gilead, tiroedd Geshwr a Maacha, Mynydd Hermon a tir Bashan i Salca.
12 Hefyd Tiriogaeth Og, brenin Bashan, oedd yn teyrnasu o Ashtaroth ac Edrei (Roedd Og yn un o'r ychydig Reffaiaid oedd ar ôl). Roedd Moses wedi eu concro nhw, a chymryd eu tiroedd.
13 Ond wnaeth Israel ddim gyrru allan bobl Geshwr a Maacha – maen nhw'n dal i fyw gyda phobl Israel hyd heddiw.
14 Wnaeth Moses ddim rhoi tir i lwyth Lefi ychwaith, am fod yr ARGLWYDD wedi addo rhoi iddyn nhw yr offrymau oedd yn cael eu cyflwyno i'w llosgi i'r ARGLWYDD, Duw Israel.