24 Os ydy dyn yn cael rhyw gyda hi yn ystod y cyfnod yma, bydd e hefyd yn aflan am saith diwrnod. A bydd unrhyw wely mae e'n gorwedd arno yn aflan.
25 “Os ydy gwraig yn diodde o waedlif am gyfnod ar wahân i'w misglwyf, mae'r un peth yn wir bryd hynny. Mae hi'n aflan.
26 Bydd pob gwely mae hi'n gorwedd arno yn ystod y cyfnod o waedlif, ac unrhyw beth mae hi'n eistedd arno yn yr un cyfnod, yn aflan (yr un fath â phan mae hi'n diodde o'r misglwyf).
27 Os ydy unrhyw un yn cyffwrdd un o'r pethau yna, bydd y person hwnnw yn aflan. Rhaid iddo olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. A bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.
28 Os ydy'r gwaedlif yn peidio, mae hi i aros am saith diwrnod, ac ar ôl hynny bydd hi'n lân.
29 Y diwrnod wedyn mae hi i gymryd dwy durtur neu ddwy golomen, a mynd â nhw i'r offeiriad wrth y fynedfa i'r Tabernacl.
30 Bydd yr offeiriad yn cyflwyno un yn offrwm i lanhau o bechod a'r llall yn offrwm i'w losgi. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddi â Duw ar ôl i'w gwaedlif hi stopio.