37 Peidiwch disgwyl iddo dalu llog ar fenthyciad, a peidiwch gwneud elw wrth werthu bwyd iddo.
38 Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Fi wnaeth eich achub chi o'r Aifft, rhoi gwlad Canaan i chi, a bod yn Dduw i chi.
39 “Os ydy un o bobl Israel yn colli popeth ac yn gwerthu ei hun yn gaethwas i chi, peidiwch gwneud iddo weithio fel caethwas.
40 Dylech ei drin fel gweithiwr sy'n cael ei gyflogi gynnoch chi, neu fel mewnfudwr sy'n aros gyda chi. Mae i weithio i chi hyd flwyddyn y rhyddhau mawr.
41 Ar ôl hynny bydd e a'i blant yn rhydd i fynd yn ôl at eu teulu a'u heiddo.
42 Fy ngweision i ydyn nhw. Fi ddaeth â nhw allan o'r Aifft. Felly dŷn nhw ddim i gael eu gwerthu fel caethweision.
43 Peidiwch bod yn greulon wrthyn nhw. Dangoswch barch at eich Duw.