19 Os ydy'r person wnaeth gyflwyno'r tir eisiau ei brynu'n ôl, rhaid iddo ychwanegu 20% at y pris, a bydd yn ei gael.
20 Ond os ydy e'n gwerthu'r tir i rywun arall, fydd e ddim yn cael ei brynu'n ôl byth.
21 Pan ddaw blwyddyn y rhyddhau mawr bydd y tir wedi ei neilltuo unwaith ac am byth i'r ARGLWYDD ei gadw. Bydd yn cael ei roi yng ngofal yr offeiriaid.
22 “Os ydy rhywun yn cysegru i'r ARGLWYDD ddarn o dir sydd wedi ei brynu (sef tir oedd ddim yn perthyn i'w deulu),
23 bydd yr offeiriad yn ei penderfynu faint mae'n werth. Bydd yn ei brisio ar sail faint o flynyddoedd sydd ar ôl cyn blwyddyn y rhyddhau nesaf. Rhaid talu am y tir y diwrnod hwnnw. Mae wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD.
24 Ar flwyddyn y rhyddhau bydd y tir yn mynd yn ôl i'r person y cafodd y tir ei brynu ganddo'n wreiddiol (sef y sawl roedd y tir yn rhan o etifeddiaeth ei deulu).
25 Mae'r pris i'w dalu yn ôl mesur safonol y cysegr – sef un sicl yn pwyso dau ddeg gera.