9 Gwelaist ein hynafiaid yn dioddef yn yr Aifft,a clywaist nhw'n gweiddi am help wrth y Môr Coch.
10 Yna gwnest wyrthiau rhyfeddol i daro'r Pharoa'i swyddogion, a pobl y wlad, am fod mor greulon.Ti'n enwog am y pethau yma hyd heddiw.
11 Dyma ti'n hollti'r môr o'u blaenau nhw,iddyn nhw gerdded drwy'r môr ar dir sych!Yna dyma ti'n taflu'r rhai oedd yn ceisio'u dal i'r dŵr dwfn,a dyma nhw'n suddo fel carreg dan y tonnau mawr.
12 Ti wnaeth arwain dy bobl gyda cholofn o niwl yn y dydd,a cholofn o dân i oleuo'r ffordd yn y nos.
13 Dyma ti'n dod i lawr ar Fynydd Sinai,a siarad gyda nhw o'r nefoedd.Rhoddaist ganllawiau teg, dysgeidiaeth wir,rheolau a gorchmynion da.
14 Eu dysgu nhw fod y Saboth yn gysegredig,a cael Moses i ddysgudy orchmynion, dy reolau a'th ddysgeidiaeth iddyn nhw.
15 Rhoist fara o'r nefoedd iddyn nhw,pan oedden nhw eisiau bwyd;a dod â dŵr o'r graigpan oedden nhw'n sychedig.Yna dwedaist wrthyn nhw am fynd i gymryd y tirroeddet ti wedi addo ei roi iddyn nhw.