1 Mae lle rwyt ti'n byw mor hyfryd,O ARGLWYDD holl-bwerus!
2 Dw i'n hiraethu; ydw, dw i'n ysuam gael mynd i deml yr ARGLWYDD.Mae'r cyfan ohono i yn gweiddi'n llawen ar y Duw byw!
3 Mae hyd yn oed aderyn y to wedi gwneud ei gartre yno!Mae'r wennol wedi gwneud nyth iddi ei hun,i fagu ei chywion wrth ymyl dy allor di,O ARGLWYDD holl-bwerus,fy Mrenin a'm Duw.
4 Y fath fendith sydd i'r rhai sy'n aros yn dy dŷ di!Y rhai sy'n dy addoli di drwy'r adeg! Saib
5 Y fath fendith sydd i'r rhai wyt ti'n eu cadw nhw'n saff,wrth iddyn nhw deithio'n frwd ar bererindod i dy deml!
6 Wrth iddyn nhw basio trwy ddyffryn Bacha,byddi di wedi ei throi yn llawn ffynhonnau!Bydd y glaw cynnar wedi tywallt ei fendithion arni.
7 Byddan nhw'n symud ymlaen o nerth i nerth,a byddan nhw i gyd yn ymddangos o flaen Duw yn Seion.