12 Yna dyma angel yr ARGLWYDD yn gofyn, “ARGLWYDD holl-bwerus, rwyt ti wedi bod yn flin gyda Jerwsalem a threfi eraill Jwda ers saith deg o flynyddoedd bellach. Am faint mwy, cyn i ti i ddangos trugaredd atyn nhw?”
13 A dyma'r ARGLWYDD yn ateb a dweud pethau caredig i gysuro'r angel oedd yn siarad â mi.
14 A dyma'r angel yn troi ata i, a dweud wrtho i, “Cyhoedda fod yr ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud,‘Dw i'n teimlo i'r byw dros Jerwsalem a dros Seion.
15 Ond dw i wedi digio go iawn gyda'r gwledydd hynny sydd mor gyfforddus a hunanfodlon! Oeddwn, roeddwn i yn ddig gyda'm pobl, ond aeth y rhain yn rhy bell gyda'i creulondeb!
16 Felly, dw i'n mynd i droi'n ôl at Jerwsalem, a dangos trugaredd ati. Dw i'n mynd i adeiladu fy nheml yno eto. Bydd syrfëwr yn dod i fesur Jerwsalem unwaith eto.’ Ie, dyna mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud.
17 Cyhoedda'n uchel eto beth ydy neges yr ARGLWYDD holl-bwerus: ‘Bydd y trefi'n fwrlwm o fywyd ac yn llwyddo. Bydd yr ARGLWYDD yn cysuro Seion, ac yn dangos eto ei fod wedi dewis Jerwsalem iddo'i hun,’”
18 Pan edrychais eto, gwelais bedwar corn anifail.