4 Pan wyt ti'n gwneud adduned i Dduw, paid oedi cyn ei chyflawni. Dydy Duw ddim yn cael ei blesio gan ffyliaid. Gwna beth rwyt ti wedi addo'i wneud.
5 Mae'n well peidio gwneud adduned yn y lle cyntaf na gwneud un ac wedyn peidio'i chyflawni!
6 Paid gadael i dy eiriau wneud i ti bechu, ac wedyn ceisio dadlau o flaen yr offeiriad, “camgymeriad oedd e!” Paid digio Duw, a gwneud iddo ddinistrio popeth rwyt wedi gweithio amdano!
7 “Mae gormod o freuddwydioac o wneud addewidion gwag.”Dangos di barch at Dduw.
8 Os wyt ti'n gweld pobl dlawd yn cael eu gormesu, hawliau'n cael eu gwrthod ac anghyfiawnder mewn rhyw wlad, paid rhyfeddu at y peth! Mae pob swyddog yn atebol i'w oruchwyliwr, ac mae rhai uwch fyth dros y rheiny wedyn.
9 Mae cynnyrch y tir i fod i bawb – ac mae'r brenin i fod i feithrin hyn!
10 “Dydy rhywun sydd ag obsesiwn am arianbyth yn fodlon fod ganddo ddigon;na'r un sy'n caru cyfoethyn hapus gyda'i enillion.”Dydy e'n gwneud dim sens!