6 Beth oedden nhw'n ei garu, beth oedden nhw'n ei gasáu, a'r hyn oedd yn eu gwneud nhw'n genfigennus – mae'r cwbl wedi hen fynd! Does ganddyn nhw ddim rhan byth eto yn yr hyn sy'n digwydd yn y byd.
7 Dos, mwynha dy fwyd ac yfa dy win yn llawen! Dyna mae Duw am i ti ei wneud.
8 Gwisga dy ddillad gorau, a pharatoi dy hun i fynd allan i fwynhau.
9 Mwynha fywyd gyda'r wraig rwyt ti'n ei charu am y cyfnod byr wyt ti yn y byd dryslyd yma. Mae'n rhodd Duw i ti am dy holl waith caled ar y ddaear.
10 Gwna dy orau glas beth bynnag wyt ti'n ei wneud. Fydd dim cyfle i weithio na myfyrio, dim gwybodaeth na doethineb ym myd y meirw lle rwyt ti'n mynd.
11 Yna, ystyriais eto yr hyn sy'n digwydd yn y byd:Dydy'r cyflymaf ddim bob amser yn ennill y ras,Na'r cryfaf yn ennill y frwydr;Dydy'r doethaf ddim yn llwyddo bob tro,Na'r clyfraf yn cael y cyfoeth,Dydy'r un sy'n nabod eraill ddim bob amser yn cael ei ffafrio.Mae damweiniau'n gallu digwydd i bawb.
12 Does neb yn gwybod pryd ddaw ei amser.Fel pysgod yn cael eu dal mewn rhwyd,neu adar mewn magl,mae rhyw anffawd yn gallu dod ar draws pobl yn gwbl ddirybudd.