3 Ond mae Duw yn gwybod pwy sy'n ei garu, ac mae'n gofalu amdanyn nhw.
4 Felly, ydy hi'n iawn i ni fwyta cig sydd wedi ei aberthu i dduwiau paganaidd? Dŷn ni'n cytuno – “Dydy eilun yn ddim byd mewn gwirionedd. Does dim ond un Duw go iawn.”
5 Hyd yn oed os oes rhai sy'n cael eu galw'n ‛dduwiau‛ yn y nefoedd ac ar y ddaear (ac oes, mae gan bobl lawer o ‛dduwiau‛ ac ‛arglwyddi‛ eraill),
6 dŷn ni'n gwybod mai dim ond un Duw go iawn sydd, sef y Tad. Fe ydy'r un greodd bopeth ac iddo fe dŷn ni'n byw. A does gynnon ni ond un Arglwydd, sef Iesu y Meseia, yr un y daeth popeth i fod trwyddo, a'r un sy'n rhoi bywyd i ni.
7 Ond dydy pawb ddim mor siŵr. Mae eilun-dduwiau wedi bod yn gymaint rhan o fywydau rhai pobl, pan maen nhw'n bwyta'r cig allan nhw ddim peidio meddwl am y ffaith ei fod wedi ei aberthu i ryw dduw paganaidd. Mae eu cydwybod nhw'n cael ei niweidio am ei bod hi'n gydwybod wan.
8 “Dydy bwyd ddim yn effeithio ar ein perthynas ni â Duw” meddech chi; digon gwir – dŷn ni ddim gwaeth o fwyta, na dim gwell chwaith.
9 Ond dylech chi fod yn ofalus nad ydych chi a'ch “hawl i ddewis” yn achosi i'r rhai sy'n ansicr faglu.