3 Ydyn, dŷn ni'n sôn am rywbeth dŷn ni wedi ei weld a'i glywed. Dŷn ni eisiau i chithau brofi'r wefr gyda ni o rannu yn y berthynas yma gyda Duw y Tad, a gyda'i Fab, Iesu y Meseia.
4 Dŷn ni'n ysgrifennu hyn er mwyn i ni i gyd fod yn wirioneddol hapus.
5 Dyma'r neges mae e wedi ei rhoi i ni, a dyma ni nawr yn ei rhannu gyda chi: Golau ydy Duw; does dim tywyllwch o gwbl ynddo.
6 Felly, os ydyn ni'n honni fod gynnon ni berthynas gyda Duw ac eto'n dal i fyw fel petaen ni yn y tywyllwch, mae'n amlwg ein bod ni'n dweud celwydd. Dŷn ni ddim yn byw yn ffyddlon i'r gwir.
7 Ond os ydyn ni'n byw yn y golau, fel mae Duw yn y golau, dŷn ni'n perthyn i'n gilydd, ac mae gwaed Iesu ei Fab yn ein glanhau ni o bob pechod.
8 Os ydyn ni'n honni ein bod ni heb bechod, dŷn ni'n twyllo'n hunain a dydy'r gwir ddim ynon ni.
9 Ond os gwnawn ni gyffesu ein pechodau, bydd e'n maddau i ni am ein pechodau ac yn ein glanhau ni oddi wrth bopeth drwg, am ei fod e'n cadw ei air ac yn gwneud beth sy'n iawn.