22 A pwy sy'n dweud celwydd? Dweda i wrthoch chi! – unrhyw un sy'n gwrthod y ffaith mai Iesu ydy'r Meseia. Gelynion y Meseia ydy pobl felly – pobl sy'n gwrthod y Tad yn ogystal â'r Mab!
23 Os ydy rhywun yn gwrthod y Mab, dydy'r Tad ddim ganddo chwaith. Ond pwy bynnag sy'n derbyn y Mab, mae'r Tad ganddo hefyd.
24 Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dal i lynu wrth beth dych chi wedi ei glywed o'r dechrau cyntaf. Wedyn, bydd eich perthynas chi gyda'r Mab a'r Tad yn sicr.
25 A dyna'n union mae e wedi ei addo i ni! – bywyd tragwyddol!
26 Dw i'n ysgrifennu hyn atoch chi er mwyn i chi fod yn ymwybodol o'r bobl hynny sydd am eich camarwain chi.
27 Ond gan eich bod chi wedi cael eich eneinio – ac mae'r Ysbryd a'ch eneiniodd chi yn aros ynoch chi – does dim angen i neb eich dysgu chi. Mae'r Ysbryd yn dysgu popeth i chi. Mae ei eneiniad yn real. Does dim byd ffug ynglŷn â'r peth! Felly gwnewch beth mae'n ei ddweud – glynwch wrth Iesu.
28 Felly, blant annwyl, glynwch wrth Iesu. Wedyn, pan ddaw yn ôl i'r golwg gallwn fod yn gwbl hyderus, a heb ddim cywilydd.