17 er mwyn i weddill y ddynoliaeth geisio'r Arglwydd, a'r holl wledydd eraill sy'n perthyn i mi.’ Mae'r Arglwydd wedi gwneud y pethau yma
18 yn hysbys ers oesoedd maith.
19 “Felly, yn fy marn i, ddylen ni ddim gwneud pethau'n anodd i'r bobl o genhedloedd eraill sy'n troi at Dduw.
20 Yn lle hynny, gadewch i ni ysgrifennu atyn nhw, a gofyn iddyn nhw beidio bwyta bwyd sydd wedi ei lygru gan eilun-dduwiau, cadw draw oddi wrth anfoesoldeb rhywiol, a pheidio bwyta cig anifeiliaid sydd wedi eu tagu nac unrhyw beth â gwaed ynddo.
21 Mae yna rai ym mhob dinas sydd wedi bod yn pregethu beth ddysgodd Moses ers amser maith, ac mae Cyfraith Moses yn cael ei darllen yn y synagogau bob Saboth.”
22 Dyma'r apostolion, gyda'r eglwys gyfan a'i harweinwyr, yn penderfynu dewis dynion i fynd i Antiochia yn Syria gyda Paul a Barnabas. Dau o'r arweinwyr gafodd eu dewis, sef Jwdas (sy'n cael ei alw'n Barsabas) a Silas.
23 Ac roedden nhw i fynd â'r llythyr yma gyda nhw:Llythyr oddi wrth y brodyr yn Jerwsalem, sef apostolion ac arweinwyr yr eglwys.At ein brodyr a'n chwiorydd o genhedloedd eraill yn Antiochia, Syria a Cilicia:Cyfarchion!