26 sydd wedi mentro'u bywydau dros ein Harglwydd Iesu Grist.
27 Bydd Jwdas a Silas yn cadarnhau ar lafar beth dŷn ni wedi ei roi yn y llythyr yma.
28 Mae'r Ysbryd Glân wedi dangos i ni, a ninnau wedi penderfynu na ddylen ni ofyn mwy na hyn gynnoch chi:
29 Eich bod i beidio bwyta unrhyw beth sydd wedi ei aberthu i eilun-dduwiau, na dim sydd â gwaed ynddo, na chig unrhyw anifail sydd wedi ei dagu. Hefyd, eich bod i gadw draw oddi wrth unrhyw anfoesoldeb rhywiol. Byddai'n beth da i chi osgoi y pethau yma.Pob hwyl i chi!
30 Felly dyma Paul a Barnabas, Jwdas a Silas yn cael eu hanfon ar eu ffordd, ac yn cyrraedd Antiochia yn Syria. Yno dyma nhw'n casglu pawb at ei gilydd ac yn cyflwyno'r llythyr iddyn nhw.
31 Cafodd y llythyr ei ddarllen, ac roedd y bobl yn hapus iawn ac wedi eu calonogi'n fawr gan yr hyn roedd yn ei ddweud.
32 A dyma Jwdas a Silas, oedd yn broffwydi, yn siarad yn hir gyda'r Cristnogion yno, a dweud llawer o bethau i'w hannog a chryfhau eu ffydd.