26 Felly mae nghalon i'n llawen a'm tafod yn gorfoleddu; mae fy nghorff yn byw mewn gobaith,
27 am na fyddi di'n fy ngadael i gyda'r meirw, gadael i'r un sydd wedi cysegru ei hun i ti bydru yn y bedd.
28 Rwyt wedi dangos y ffordd i fywyd i mi; bydd bod gyda thi yn fy llenwi â llawenydd.’
29 “Frodyr a chwiorydd, mae'n amlwg bod y Brenin Dafydd ddim yn sôn amdano'i hun. Buodd farw a chafodd ei gladdu ganrifoedd yn ôl, ac mae ei fedd yn dal gyda ni heddiw.
30 Ond roedd Dafydd yn broffwyd, ac yn gwybod fod Duw wedi addo y byddai un o'i ddisgynyddion yn eistedd ar ei orsedd, sef y Meseia.
31 Roedd yn sôn am rywbeth fyddai'n digwydd yn y dyfodol. Sôn am y Meseia'n dod yn ôl yn fyw roedd Dafydd pan ddwedodd na chafodd ei adael gyda'r meirw ac na fyddai ei gorff y pydru'n y bedd!
32 A dyna ddigwyddodd! – mae Duw wedi codi Iesu yn ôl yn fyw, a dŷn ni'n lygad-dystion i'r ffaith!