29 Daeth yn amlwg fod gan y cwbl rywbeth i'w wneud â'r ffordd iawn o ddehongli eu Cyfraith nhw – doedd e'n sicr ddim yn haeddu ei ddienyddio, na hyd yn oed ei garcharu!
30 Ond wedyn ces wybodaeth fod cynllwyn ar y gweill i'w ladd, felly dyma fi'n ei anfon atoch chi ar unwaith. Dw i wedi dweud wrth y rhai sy'n ei gyhuddo am fynd â'u hachos atoch chi.
31 Felly yn ystod y nos dyma'r milwyr yn mynd â Paul o Jerwsalem, ac yn cyrraedd cyn belled ag Antipatris, oedd tua hanner ffordd i Cesarea.
32 Y diwrnod wedyn dyma'r marchogion yn mynd yn eu blaenau gydag e, a gweddill y milwyr yn mynd yn ôl i'r barics yn Jerwsalem.
33 Pan gyrhaeddodd y marchogion Cesarea, dyma nhw'n mynd â'r llythyr at y llywodraethwr ac yn trosglwyddo Paul i'w ofal.
34 Ar ôl darllen y llythyr dyma'r llywodraethwr yn gofyn o ba dalaith roedd Paul yn dod. Ar ôl deall ei fod yn dod o Cilicia,
35 meddai, “Gwna i wrando ar dy achos di pan fydd y rhai sy'n dy gyhuddo di wedi cyrraedd.” Yna gorchmynnodd fod Paul i gael ei gadw yn y ddalfa ym mhencadlys Herod.