15 “A dyma fi'n gofyn, ‘Pwy wyt ti, Arglwydd?’ A dyma'r Arglwydd yn ateb, ‘Iesu ydw i, sef yr un rwyt ti'n ei erlid.
16 Cod ar dy draed. Dw i wedi dy ddewis di i fod yn was i mi. Dw i am i ti ddweud wrth bobl am beth sydd wedi digwydd, ac am bopeth arall bydda i'n ei ddangos i ti.
17 Bydda i'n dy achub di o afael dy bobl dy hun a phobl y cenhedloedd eraill. Dw i'n dy anfon di atyn nhw
18 i agor eu llygaid nhw er mwyn iddyn nhw droi o dywyllwch i oleuni, a dianc o afael Satan at Dduw. Bydda i'n maddau eu pechodau nhw, a byddan nhw'n cael perthyn i'r bobl hynny sydd wedi eu gwneud yn lân drwy gredu ynof fi.’
19 “Felly, eich mawrhydi, dw i wedi ufuddhau i'r weledigaeth ges i o'r nefoedd.
20 Dw i wedi bod yn dweud wrth bobl fod rhaid iddyn nhw droi cefn ar eu pechodau a throi at Dduw – a byw mewn ffordd sy'n dangos eu bod wedi newid go iawn. Gwnes i hynny gyntaf yn Damascus, ac wedyn yn Jerwsalem ac ar draws Jwdea, a hefyd i bobl o genhedloedd eraill.
21 A dyna pam wnaeth yr Iddewon fy nal i yn y deml a cheisio fy lladd i.