31 Ond dyma Paul yn dweud wrth y swyddog Rhufeinig a'i filwyr, “Os fydd y dynion yna ddim yn aros ar y llong fyddwch chi ddim yn cael eich achub.”
32 Felly dyma'r milwyr yn torri'r rhaffau oedd yn dal y cwch glanio a gadael iddi ddisgyn i'r dŵr.
33 Dyma Paul yn annog pawb i fwyta cyn iddi wawrio. “Dych chi wedi bod yn poeni a heb fwyta dim byd ers pythefnos.
34 Dw i'n erfyn arnoch chi i gymryd rhywbeth – bydd ei angen arnoch i ddod trwy hyn. Ond gaiff neb niwed.”
35 Cymerodd Paul dorth o fara, diolch i Dduw o'u blaenau nhw i gyd, ac yna ei thorri a dechrau bwyta.
36 Roedd wedi codi calon pawb, a dyma ni i gyd yn cymryd bwyd.
37 (Roedd 276 ohonon ni ar y llong i gyd).